Yr wythnos hon, galwodd gwleidyddion o amgylch y D.U. ar y Llywodraeth yn San Steffan i ostwng cyfradd treth ar werth (TAW) i 5 y cant ar waith atgyweirio adeiladau a gwaith cynnal a chadw.
Yn San Steffan, derbyniodd Cynnig Bore Cynnar (CBC7), wedi’i daflennu gan Bob Russell, A.S., ei ganfed lonfod. Mae CBC7 yn galw ar y Llywodreath i ostwng y TAW a godir ar waith atgyweirio adeiliadau a gwaith cynnal a chadw i 5 y cant, gan ddadlau y byddai gostyngiad o’r fath nid yn unig yn cael gwared ar y “cowboi builder”, ond hefyd yn ei wneud yn haws i bobl wneud gwelliannau ynni effeithlon i’w cartrefi.
Mewn dadl ar strategaeth tai yn y Cynulliad, cyfunodd Aelodau’r Cynulliad i gefnogi cynnig a oedd yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wneud cynrychiolaeth i Lywodraeth y D.U. i leihau cyfradd y TAW ar waith atgyweirio a gwenud gwelliannau i adeiliadau presennol.
Meddai Richard Jenkins, Cyfarwyddwr Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, Cymru :
“Rwyf i wrth fy modd fod cyn gymaint o gefnogaeth am ostyngiad TAW o fewn Cynulliad Cymru. Yn anffodus mae masnachwyr gweilch yn blodeuo trwy osgoi TAW, gan gynnig dêl rhad i’r cwsmer fel canlyniad. Byddai lleihau y cyfradd ar waith adeiladu cartrefi i 5 y cant yn arwyddocaol yn y frwydyr yn erbyn y mantais masnachol yma. Gyda’r gostyngiad, byddai’r cymhelliad ariannol i ddefnyddio masnachwyr gweilch yn prinhau ac yn lle, bydd modd adennill cystadleuaeth yn y maes. Rwy’n ffyddiog fel y bydd cwsmeriaid yn canolbwyntio ar ansawdd a gwerth y gwaith adeiladu yn hytrach na’r pris, mewn amser caiff y masnachwyr gweilch eu gwthio allan o’r farchnad.”
Mae tystiolaeth arolygu’n awgrymmu y byddai dros 50 y cant o gwsmeriaid yn cyfolgi adeiladwr sy’n osgoi TAW er mwyn torri costau. Mae’r gocheliad yn endemig ac amcangyfrifir fod yr economi anffurfiol werth £4.5 biliwn, sydd felly yn awgrymu colled TAW blynyddol o oddeutu £780 miliwn. Nid yw gorfodi gwelliannau i orfodaeth y gyfraith presennol yn opsiwn ymarferol, gan y byddai hyn yn ymofyn cael arolygwr TAW ymhob cartref. Felly, yn sicr, gostwng cyfradd y TAW yw’r unig modd o sicrhau dadfeddiant y masnachwyr gweilch.
Ychwanegodd Richard Hyslop, Cydlynydd Clymblaid Gostwng y TAW:
“Mae ‘na fanteision arwyddocaol mewn gostwng TAW, yn enwedig ar adeg pan mae yna wasgedd ar y Llywodraeth nid yn unig i ddarparu mwy o gartrefi, ond hefyd i ddyfod adeiladau presennol i gyfateb â gofynnion lleihau carbon. Rwy’n hapus dros ben bod gwleidyddion ar draws y D.U. yn galw allan ac yn galw ar y Llywodraeth i leihau TAW; Gobeithiaf yn fawr eu bônt yn gwrando.”